|

Mae Awdurdod
Addysg Castell-nedd Port Talbot yn awyddus i ddefnyddio'r rhyngrwyd fel
cyfrwng i hybu a rhannu arfer dda. I'r perwyl hwn rydym wedi neilltuo
gofod ar wefan Baglan i enghreifftio yr hyn rydym yn ei gyfrif yn arfer
dda yng nghynllunio tymor byr. Cam cyntaf fydd hwn ar hyd y daith o sicrhau
bod yr hyn a ystyriwn yn dda o fewn ein Hawdurdod ar gael i'w rannu ag
eraill. Mae potensial y fath flaengaredd yn enfawr, fel dywed John McBeath
yn ei gyfrol, 'Schools Must Speak for Themselves':
'mae
ysgolion yn gwella pan ddarparant gyfleoedd ac amser i'w hathrawon rannu
a'i gilydd. Mae'r system yn gyfan yn gwella pan gaiff ysgolion gyfle
i ddysgu oddi wrth ei gilydd.'
Mawr obeithiwn
y bydd ein gwefan yn fodd o hwyluso hyn.
Enw'r gwefan
fydd 'Y Cwpwrdd Gwydr', a bydd modd i bawb gael golwg arno drwy ymweld
â gwefan Baglan. Dewiswyd yr enw oherwydd yr ensyniad amlwg ynglyn
â thryloywder, ond hefyd oherwydd ei fod yn deitl ar stori gan Terry
Jones (gynt o Syrcas Monty Python) sydd yn hyrwyddo'r syniad o rannu.
Mae'r cwpwrdd gwydr yn y stori yn eich bodloni â'r hyn a fynnoch,
ar yr amod eich bod yn rhoi rhywbeth yn ôl yn ei le. Gyda'r egwyddor
hon flaenaf yn ein meddyliau yr aethpwyd ati i egino'r syniad o rannu
arfer effeithiol.
Pan yn ystyried
deinamig ysgol, yr elfen sydd yn effeithio'n fwyaf uniongyrchol ar berfformiad
dosbarth - y dysgu a'r addysgu - yw'r cynllunio tymor byr.
Fe
fydd yr unedau'n cynnwys:
- cyd-destun
y wers
- nodiadau
cynllunio ar gyfer y wers
- unrhyw
daflenni gwaith a ddefnyddiwyd yn ystod y wers
- enghreifftiau
o waith plant yn deillio o'r wers
Mae croeso
i ysgolion ddefnyddio'r unedau i lywio'u harfer bresennol, ond hefyd anogir
athrawon i gyfrannu esiamplau o'u cynllunio'u hunain i'w cynnwys yn 'Y
Cwpwrdd Gwydr". Dyma'r cam cyntaf ar hyd y llwybr o sicrhau bod arfer
dda yn cael ei hadnabod, ei dathlu a'i rhannu ar draws yr Awdurdod. Yn
y pen draw gobeithir sefydlu bas data o unedau, yn cynnwys holl bynciau
cwricwlwm yr ysgol, a fydd ar gael i ysgolion eu darllen, eu hystyried
ac o bosib eu defnyddio i ddylanwadu ar eu harfer bresennol. Fe fydd yna,
wrth reswm, beth anghytuno ynglyn â'r hyn sydd yn cael ei ystyried
yn arfer dda neu enghreifftiol ac fe ddylai'r gwefan adlewyrchu hyn. Fodd
bynnag, bu inni drafod fel grwp llywio beth oedd hanfodion cynllunio effeithiol,
a chytunwyd ar yr elfennau canlynol:
Amcanion
dysgu - Beth fydd y disgyblion yn ei ddysgu? Beth mae'r athro/rawes
am iddynt ddysgu? Datganiad cryno yn cynnwys brawddeg neu ddwy.
Gweithgaredd
/ gweithgareddau - Beth fydd y disgyblion yn ei wneud? Tri
neu bedwar pwynt bwled.
Cyfleoedd
asesu - Beth maent wedi'i ddysgu? Sut fyddwch yn gwybod beth
maen' nhw wedi'i ddysgu? Gall hyn ganolbwyntio ar ddisgybl unigol, ar
grwp o ddisgyblion neu ar ddosbarth cyfan yn ôl yr angen a glustnodwyd
gan yr athro/rawes. Nodyn cryno yn unig sydd ei angen.
Gwahaniaethu
- Yn ôl y dasg, lefel y gweithgaredd neu yn ôl y deilliannau. Dau neu
dri phwynt bwled.
Medrau
allweddol - Pa fedrau allweddol (llythrennedd, rhifedd, TgaCh)
sydd yn gwneud cyfraniad arwyddocaol i'r wers? Ydy'r gweithgareddau'n
cynnig cyfle i hyrwyddo medrau allweddol? Un neu ddau bwynt bwled.
- Geirfa
allweddol - Pa eiriau pwysig neu newydd ydych chi am i'r disgyblion
- ddysgu
- deall
a'u defnyddio yng nghyd-destun y wers/yn arbenigol i'r pwnc
Unrhyw
nodiadau perthnasol eraill yn ymwneud â:
- Threfniadaeth
dosbarth.
- Adnoddau.
- Defnydd
o gynorthwydd dosbarth
- Ggwerthusiad
o'r wers.
Un cwestiwn
sydd heb ei ateb yw 'Pam fod angen cynllunio tymor byr?' Mae cynllunio
tymor byr yn ddadansoddiad gan yr athro/rawes o gynlluniau gwaith yr ysgol
wedi'i anelu at gwrdd anghenion casgliad penodol o ddisgyblion. Mae cynllunio
tymor byr effeithiol yn hyrwyddo dysgu da ac yn cytgordio'n daclus ag
agweddau hanfodol eraill megis yr asesu a'r monitro. Yn benodol, dylai:
- Gydnabod
yr ystod o alluoedd ac anghenion o fewn y dosbarth.
- Ddibynnu
ar ddewis gweithgareddau ac adnoddau addas sydd yn ystyried dysgu blaenorol
y disgyblion.
- Amlinellu
dulliau asesu sydd yn briodol ac addas i'r amcanion dysgu a'r gweithgareddau
a gynlluniwyd.
- Gynnwys
strategaethau ar gyfer amlygu'r amcanion dysgu, targedau unigol a meini
prawf yr asesu gyda'r disgyblion.
- Ystyried
ystod o dechnegau addysgu ac asesu sydd yn adlewyrchu dulliau dysgu
gwahanol y disgyblion.
- Gytuno
ar flaenoriaethau ynglyn â'r hyn a gaiff ei asesu mewn dyfnder.
- Gydnabod
nad oes angen cynllunio asesu ar gyfer pob gweithgaredd dysgu.
Fel y cyfeiriwyd
ato eisoes, hwn fydd y cam cyntaf ar hyd y daith o sicrhau bod arfer dda
yn cael ei hadnabod, ei dathlu a'i rhannu ar draws yr Awdurdod. Bydd yr
unedau ar gael i eraill i'w defnyddio fel meincnod, i'w hystyried yng
ngoleuni arfer gyfredol yr ysgol, ac i ddylanwadu ar eu harfer eu hunain;
er y derbyniwn y gall barn amrywio ynglyn â'r hyn a ystyrir iddi fod yn
arfer dda. Fe fydd y gwefan yn adlewyrchu hyn.
Mae effeithiolrwydd
'Y Cwpwrdd Gwydr' yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar yr ymateb o du'r
athrawon. Yn ddelfrydol, bydd hwn yn gyfle i rannu, nid yn unig arfer
yn ymwneud â chynllunio tymor byr, ond hefyd arferion yn ymwneud â materion
addysgol ehangach.
Os yw ysgolion
i wella a datblygu yna mae'n rhaid iddynt fod yn barod i ddysgu oddi wrth
ei gilydd, mae'r 'Cwpwrdd Gwydr' yn un modd nid ansylweddol o hwyluso
hynny.
Aled
Evans
Swyddog Datblygu Cynradd
|