|
 
Lleolir Ysgol
Gynradd Rhiwfawr mewn pentref bach ym mhen uchaf Cwm Tawe yn sir Castellnedd
Port Talbot. Mae'r pentref tua dwy filltir o Ystalyfera ac Ystradgynlais,
a phymtheg milltir o Abertawe.
Mae ynddi
tair ystafell ddosbarth, neuadd, ystafell adnoddau, ystafell y Pennaeth
a thoiledau. Mae'r iard fawr ar ddwy lefel o'i chwmpas.
Mae pob
agwedd o'r Cwricwlwm wedi ei integreiddio o fewn fframwaith o ddysgu thematig.
Rhoddir pwyslais ar gynnig profiadau uniongyrchol a gwerthfawr i'r plentyn.
Cymraeg
yw'r iaith ddyddiol o fewn yr ysgol, a chyfrwng ieithyddol y dysgu yn
y babanod. Dysgir y plant yn ddwyieithog yn yr Adran Iau.
Ar hyn o
bryd, mae 43 o blant ar y gofrestr, gyda'r mwyafrif ohonynt yn byw o fewn
tafliad carreg o'r ysgol. Mae'r plant yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau
oedran cymysg - Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 1 a 2 mewn un dosbarth, Blwyddyn
3 a 4 gyda'i gilydd a Dosbarth 5 a 6 gyda'i gilydd. Felly, mae cynllunio'n
fanwl yn rhan bwysig iawn i bob aelod o'r staff er mwyn sicrhau cynnydd
a datblygiad y plentyn.
Mae nature
ieithyddol yr ysgol a'r pentref wedi newid cryn dipyn ar hyd y blynyddoedd
diwethaf, gyda nifer sylweddol o fewnfudwyr wedi ymgartrefu yn y pentref.
Heblaw am ymhlith henoed y pentref, ar y cyfan, Saesneg yw iaith gyfathrebu
trigolion y pentref.
Ymfalchiwn
yn y ffaith fod yr ysgol yn gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd y pentref.
Mae'n ganolfan naturiol a manteisir ar y cyfle i estyn gwahoddiad i rieni
a phentrefwyr i ymuno yng ngweithgareddau'r ysgol. Yn ogystal, gwnawn
ddefnydd o arbenigedd lleol er mwyn cyflwyno addysg fyw a pherthnasol
i'r plant.
Fel staff,
rydym yn cynllunio yn wythnosol ac ar ddiwedd pob wythnos rydym yn adolygu
ein gwaith. Mae'r adolygiad, felly, yn arwain at ein cynllunio am yr wythnos
canlynol. Eleni rydym yn treialu system newydd sef dysgu hanes a chelf
am yr hanner tymor cyntaf a wedyn daearyddiaeth a thechnoleg am yr ail
hanner o'r tymor.
Mae'r ysgol
newydd dderbyn y Marc Safon am ddysgu rhifedd a llythrennedd.
|