|
1(3)
2(5)
1(7)
1(1,9)
1(6)
1(1,2,3,4)
2(5,7)
1(6,10)
1(1,7)
1(7)
2(2)
2(2,6)
|
- Y
plant i edrych ar luniau o uwcholygon o wrthrychau beunyddiol
e.e. tebot, bwrdd. Y plant i fynd ati i ddyfalu beth yw'r lluniau.
Symud ymlaen i ofyn i'r plant dynnu lluniau tebyg eu hunain yn
dangos uwcholygon pethau syml o amgylch y dosbarth.
- Y
plant i wneud uwcholygon o ble maent yn eistedd yn y dosbarth.
- Trafodaeth
ddosbarth am y modd y defnyddir yr ystafell ddosbarth. Oes unrhyw
ardaloedd arbennig? Oes ardaloedd maent yn eu hoffi yn arbennig?
- Trafod
gwahanol symbolau a allwn eu defnyddio i gyfleu gwahanol bethau
yn y dosbarth e.e. sinc/ ffenestr/ drws. Wedi cytuno ar symbolau
y plant i fynd ati i gyd-weithio a phartner i wneud uwcholygon
o'r dosbarth.
- Dangos
lluniau o wahanol ardaloedd o amgylch yr ysgol i'r plant. Ble
mae'r llefydd hyn? Y plant i gyfateb lluniau i gynllun o'r ysgol.
- Rhoi
casgliad o symbolau/lluniau i'r plant o bethau amrywiol o amgylch
yr ysgol. Y plant i fynd am dro i chwilota am y pethau yma e.e.
ffens; bin sbwriel.
- Edrych
ar gynllun o'r ysgol gan drafod llwybrau'r plant o un man i'r
llall. Beth yw'r ffordd gyflymaf i gyrraedd y dosbarth derbyn?
Sut gallwn gyrraedd y gylch feithrin heb fynd heibio'r llyfrgell?
Canolbwyntio ar ddefnyddio termau fel chwith, de, yn syth ymlaen..a.y.y.b.
Rhoi cardiau fflach i'r plant a saethau cyfeiriadau arnynt.
- Mynd
am dro o amgylch tiriogaeth yr ysgol. Trafodaeth ddosbarth am
yr hyn mae'r plant yn ei hoffi/ ddim yn hoffi am yr ardal o amgylch
yr ysgol. Edrych yn arbennig ar bethau naturiol a'r pethau a greuwyd
gan ddyn. Sut hoffe'r plant newid tiriogaeth yr ysgol er gwell.
Ysgrifennu llythyr at Mr Ellis yn son am y newidiadau.
- Ymarfer
pellach yn dilyn cyfarwyddiadau wrth ddefnyddio'r crwydryn. Y
plant i anfon y crwydryn ar daith arbennig gan smalio mai Inc
Wirion Bost ydyw yn postio llythyron yn y stori. Pa lwybr sydd
angen iddo ei ddilyn er mwyn postio'r llythyron yn gywir?
- Trafod
taith y plant i'r ysgol bob dydd. Pa nodweddion arwyddocaol maent
yn eu gweld. Llunio rhestr/ lluniau o'r nodweddion yma. Cyflwyno
map syml i'r plant yn dangos taith Inc Wirion Bost yn y stori
o un ty i'r llall. Y plant i fynd ati i lunio map syml eu hunain
yn dangos eu taith i'r ysgol.
- Edrych
ar fap go iawn yn dangos taith y bws i'r ysgol bob dydd. Pa symbolau
sydd ar y map? Edrych yn arbennig am symbolau megis eglwys, ysbyty,
a.y.y.b.
- Trafodaeth
ynglyn a'r gwaith y mae pobl yn ei wneud yn yr ysgol. Ble mae'n
nhw'n gweithio? Beth mae'n nhw'n gwnaeud? Y plant i lunio holiadur
syml er mwyn casglu gwybodaeth am eu swyddi. Creu arddangosfa
yn yr ysgol yn dangos y bobl hyn.
- Ymestyn
y gwaith i gasglu gwybodaeth mewn llyfrau cyfair am bobl eraill
sy'n ymweld a'r ysgol e.e. postmon. Pa drafnidiaeth maent yn ei
ddefnyddio? I ble arall maent yn mynd?
ASESU:
- Ydi'r
plant yn gallu mynegi safbwynt am nodweddion amgylchyddol yr ysgol
sydd iddyn nhw naill ai'n ddeniadol neu'n anneniadol?
- Ydi'r
plant yn gallu mynegi barn ar nodweddion deniadol ac anneniadol
amgylchedd yr ysgol?
|