|
Llyfr
Mawr: "Marged a'r Dinasor"
Wythnos 1:
- Cyd-ddarllen
y llyfr mawr yn ddyddiol. Tynnu sylw'r plant at wahanol agweddau
o iaith: berfau -odd; ansoddeiriau; dyfynnodau; atalnodi.
- Trafodaeth
ddosbarth am y pethau sydd yn rhoi ofn i Marged. Pa bethau sydd
yn rhoi ofn I'r plant? Darllen y gerdd "Ar Noson Dywyll". Ydi'r
plant yn ofni'r pethau hyn?
- Gweithgaredd
ysgrifenedig yn deillio o'r drafodaeth uchod: plant Bl2 I ysgrifennu
cofnod o'r hyn sydd yn rhoi ofn iddynt. Eu hannog I atalnodi yn
y mannau cywir. Bl1 I dilyn y patrwm: Mae gen I ofn…..
- Cyflwyno
geiriau lluosog sy'n gorffen ag-od: cathod; tylluanod; cwningod;
ceiliogod; llwynogod. Bl2 I lunio rhestr o eiriau lluosog tebyg.
Plant Bl1 I gyplysu geiriau e.e. cwningen-cwningod.
- Cyflythrennu:
Daniel y Dinasor. Gall y plant feddwl am fwy o enwau sydd yn cyflythrennu
e.e. Elle yr eliffant. Annog plant Bl2 I fynd ati I ychwanegu
ansoddair I'r enw e.e. Daniel y dinasor dwl.
Wythnos
2
- Edrych
yn fanwl ar y defnydd o ddyfynnodau yn y stori. Pryd mae rhywyn
yn siarad? Trafodaeth am yr hyn mae ffrindiau Marged yn ei ddweud
wrthi. Ychwanegu swigod siarad ar gyfer plant Bl1. Goreuon BL2
I drosi yr hyn sydd mewn swiged I ddyfynnodau.
- Edrych
ar ferfau -odd yn y stori. Y plant I fynd ati i chwilio amdanynt
a'u hysgrifennu ar gardiau bach. Ydynt yn gallu darllen y geiriau?
Gem ar lafar yn llunio stori gan ddefnyddio cardiau fflach -odd.
*Gweithgareddau'r
carped: Chwarae rol - Marged a'I ffrindiau a Miss Puw; Gwir
a gau; Cardiau holi; ad-drefnu'r stori.
*Sesiwn
sillafu a llawysgrifen 3 gwaith yr wythnos: M/m; N/n; Ma; D/d.
*Dilyn
a rhoi cyfarwyddiadau I'r crwban. Gweithgareddau yn seiliedig ar
y stori. Gweler C.G. Daearyddiaeth.
|
1
2
3
1
1
3
2
3
3
1/2/3
3
|
1(1)
2(1)
1(4)
2(7,10)
1(2,3)
3(2)
3(2)
3(3)
1(2)
3(2)
2(5,9)
|




|
A
A
M
A
M
M
A
A
|
D
D
G
G
G
D/G
G
G/PAR
PAR
|