|
 
Croeso
i dudalennau Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle'r Ynn! Mae'r ysgol wedi ei lleoli
yn Llansawel, ger Castell-Nedd. Agorwyd yr ysgol ym 1997 a bellach mae
62 o blant yn mynychu'r ysgol yn llawn amser, a 33 o blant yn yr Uned
Feithrin. Bydd yr ysgol yn tyfu'n flynyddol nes cyrraedd Blwyddyn 6 ym
2004. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardaloedd Brynhyfryd, Coedffranc, Crymlyn,
Llansawel, Melin, Ynysmaerdy a Sgiwen, ac yn bwydo Ysgol Gyfun Ystalyfera
maes o law.
Mae gan
yr adeilad presennol saith ystafell ddosbarth ynghyd a neuadd fawr sydd
hefyd yn cael ei defnyddio fel neuadd fwyta. Ceir digonedd o ardaloedd
chwarae yn yr awyr agored yn cynnwys ardaloedd wyneb caled, corlan caeedig
ar gyfer Meithrin a Derbyn ac ardaloedd eang o laswellt.
Dosbarth
Blynyddoedd 1 a 2
Mae
27 o blant yn y dosbarth- 13 ym mlwyddyn 1 ac 14 ym mlwyddyn 2. Yr athrawes
ddosbarth yw Miss C.Hughes, sydd hefyn yn Ddirprwy Bennaeth yn yr ysgol.
Yn ystod
cyfnod dysgu'r bore mae'r ysgol yn gweithredu'r awr lythrennedd a rhifedd.
Mae'r pynciau eraill yn cael eu dysgu yn ystod sesiynau'r prynhawn . Mae
Daearyddiaeth yn cael ei ddysgu fel gwers ddosbarth, er bod y gweithgareddau
yn cael eu gwahaniaethu yn ol gallu'r plant. Caiff y plant gyfle i weithio
fel dosbarth, yn unigol, mewn parau ac fel grwp. Rhoddir sylw hefyd i'r
medrau allweddol.
Y
thema dosbarth yn ystod Tymor Y Gwanwyn 2001 yw 'Tai a Chartrtefi'. Ffocws
y gwersi Daearyddiaeth yw yr ardal leol, gan ganolbwyntio yn arbennig
ar yr ysgol. Mae'r gwersi yn cael eu cynllunio yn bythefnosol, yn dilyn
y canllawiau yng Nghynllun Gwaith Daearyddiaeth yr ysgol.
|